Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Tachwedd 2025

LLONGYFARCHIADAU

Hoffem llongyfarch Mary Roberts (Gofalwraig) ar basio ei NVQ lefel 2 mewn Iechyd a Gofal yn gyhud a Choleg Cambria. Da iawn hi!

DATHLIADAU PENBLWYDD

Diolch yn fawr i cogyddion y Cartref am ddarparu cacennau arbennig ar achlysur penblwydd Mrs Rona Jones ac Miss Elizabeth Bird! Braf oedd cael cyfarch teuluoedd y ddwy yn ystod y ddau achlysur. 

CROESO

Hoffem groesawu Mrs Florence Taylor (Bermo) fel preswylwraig newydd i'r Cartref a gobeithio y gwneith setlo yn ein mysg. Hoffem hefyd groesawu aelod newydd i'r tim glanhau sef Kim o Glawdd Newydd. Yn yr un modd hoffem groesawu ein Uwch Ofalwraig newydd Sandhya. Mae Sandhya gyda chefndir nyrsio a gyda phrofiad eang yn y maes. Bydd ganddom ddwy 'Sandhya' rwan fydd yn achosi cryn penbleth! Croesawn hefyd Sunitha fel Gofalwraig Newydd. Mae'r ddwy yn dod atom ar ol gweithio yn y maes gofal am nifer o flynyddoedd yn Ogledd Lloegr (Preston) ac wrthi'n symyd gyda eu teuluoedd i'r pentre. 

HYFFORDDIANT

Diolch I pawb o'r tim gofal a lwyddodd i gwblhau cwrs sut I arbed a thrin briwiau'r croen yn ystod y mis dwethaf. 'Roedd hwn yn cwrs heriol iawn a gobeithio y bydd o ddefnydd yn y dyfodol. 

GWYLIAU

Bu nifer o staff y Cartref ar eu gwyliau yn ystod mis Medi. Mwynhaodd Helen Roberts (Swyddfa) amser hwyliog gyda ei Mherch Gwawr yn ymweld a chwaer Helen yn yr Alban. Bu ein Rheolwraig Nyrsio Meryl Welsby hefyd dramor yn Nhwrci hefo'r plant Morgan a Mali yn deifio. Llongyfarchiadau i'r ddau am basio cwrs annodd iawn - PADI Achub Bywyd Deifiwyr a gymerodd bedwar diwrnod i'w gwblhau. Llwyddodd Meryl hefyd basio cwrs 'Nitroux' i'w galluogi I ddefnyddio canran uchel o Ocsigen yn ei thanc deifio. Bu Mary Roberts am wythnos yn Llundain yn ymweld a'i Mherch tra treuliodd Nyrs Gabi Sabadus ac Uwch Ofalwraig Elain Morris wythnos hamddenol adref.

CYDYMDEIMLO

Hoffem gydymdeimlo gyda Mererid ac Ilan (a'u teuluodd oll) yn eu profedigaeth o golli Mam ac Nain annwyl iawn sef Mrs Dorothy Jones (Llangwm gynt). Diolch o Galon ichi o'ch cefnogaeth ohonom yn y Cartref ac yn enwedig i Mererid am ddod atom mor gyson i chwaraer organ a chanu gyda'r preswylwyr. 

DATHLIADAU PENBLWYDD YN 60!!

Trefnwyd parti annisgwyl i ddathlu Penblwydd Arbennig ein gweinyddwr swyddfa - Helen Roberts yng Ngwesty 'Signatures' yng Nghonwy! Diolch I Gwawr, Merch Helen, ac i Meryl, am y trefniadau trylwyr. Braf oedd cael gweld wyth o'i chyd weithwyr yn y parti. Syrpreis arall ar gyfer Helen oedd iddi gael aros yn un o Fythynod Gwesty Bodysgallen ar ol y parti hefo Meryl a Gwawr a sesiwn 'spa' y diwrnod canlynol. Bu raid iddi gymeryd wythnos I ffwrdd i adennill ar ol yr holl ddathliadau! 

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys