Mae ein Cartref Gofal yn cynnig 30 o ystafelloedd gwely sengl wedi'u haddurno'n chwaethus gyda'r mwyafrif yn cynnwys cyfleusterau 'en-suite' a phob un â golygfeydd godidog o gefn gwlad. Yn ogystal, rydym yn cynnig:
- Ystafell fwyta fawr ar gyfer prydau
- 4 lolfa gymunedol eang
- Ardaloedd tawel gyda soffas a chadeiriau er mwyn ymlacio
- 5 ystafell ymolchi cymunedol
- Lifft siafft fertigol wyth person i'r llawr cyntaf
- Cegin ac ystafell baratoi fasnachol eang
- Patio hygyrch i gadeiriau olwyn
- Gardd flodau a lawntiau chwaethus
- System wi-fi fasnachol integredig ym mhob rhan o’r cartref
- Ystafell driniaeth glinigol
- Socedi teledu a chlychau galw yn safonol
- Maes parcio mawr i ymwelwyr a staff
- Mae wi-fi masnachol ym mhob ystafell hefyd