Llaw hyn yn cael ei gafael gan lawn ifengach

Ein Gwasanaethau

Ein hathroniaeth yw darparu gofal personol eithriadol, wedi'i deilwra yn ôl anghenion pob unigolyn. Yn benodol rydym yn cynnig:

  • Gofal tymor hir a thymor byr
  • Gofal seibiant
  • Gofal dydd
  • Gofal diwedd oes (Lliniarol)

Mae'r Cartref Gofal wedi ennill y dystysgrif ragoriaeth mewn gofal lliniarol ers 2015, ac mae’n parhau dan arweiniad dau o'n pencampwyr nyrsio ein hunain. Rydym yn ystyried ein hunain yn rhagweithiol iawn o ran hyfforddiant a datblygiad gydol oes ein tîm ac rydym yn cydweithio â Choleg Cambria i ddarparu ein holl hyfforddiant galwedigaethol. Rydym ni hefyd yn cynnig hyfforddiant allanol a hyfforddiant mewn swydd parhaus i'n nyrsys a gweddill y tîm.