Meryl, Gabi a Helen yn sefyll o flaen prif fynedfa Cartref Bryn yr Eglwys.

Cwrdd â'r Tîm

Meryl Welsby

Meryl Welsby

Rheolwr Nyrsio Cofrestredig


Mae Meryl yn Nyrs Gofrestredig a hi yw Rheolwr Nyrsio Cofrestredig y Cartref Gofal. A hithau wedi bod yn nyrsio ers 1982, hi yw Rheolwr Nyrsio Cartref Bryn yr Eglwys ers 1990. Mae ganddi brofiad helaeth a chymwysterau hyfforddi mewn nyrsio ac MBA mewn Rheoli, yn ogystal â Diploma mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd.

Mae Meryl hefyd wedi cynnal ei statws Hyrwyddwr 'diwedd oes' ers 2015.

Hi sy’n arwain y tîm yng Nghartref Bryn yr Eglwys, a hi hefyd yw’r 'unigolyn sy’n gyfrifol' am redeg y Cartref Gofal.

Gabi Sabadus

Gabi Sabadus

Arweinydd Nyrsio Clinigol


Gabi yw Arweinydd Nyrsio Clinigol y Cartref Gofal ac mae wedi bod yn rhan o'r tîm nyrsio ers 2004. Mae Gabi wedi bod yn nyrsio ers 1995, ac mae wedi meithrin profiad helaeth dros y blynyddoedd ynghyd ag ennill nifer o wobrau fel y Dystysgrif Pencampwr mewn Gofal Lliniarol. Mae Gabi yn gyfrifol am agweddau clinigol y gwasanaeth, hyfforddi staff a chymryd yr awenau yn ystod adolygiadau nyrsio rheolaidd y preswylwyr.

Kelsey Edwards

Kelsey Edwards

Goruchwyliwr Clinigol


Mae Kelsey yn Nyrs Gofrestredig sydd â Gradd Baglor mewn Nyrsio o Brifysgol Caer, ac mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl ers 2018 ac yn dysgu Cymraeg. Kelsey yw Nyrs Cyswllt Hyfywedd Meinwe (Tissue Viability) y Cartref ac yn 2025, cafodd ei dyrchafu i’w rôl fel Goruchwyliwr Clinigol gyda chyfrifoldebau dros reoli meddyginiaeth yn ogystal â'r prosesau nyrsio a chlinigol ym Mryn yr Eglwys. Mae hi wrthi’n astudio cwrs hyrwyddwr 'diwedd oes' trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Helen Roberts

Helen Roberts

Gweinyddwr


Helen yw Gweinyddwr y Cartref Gofal. Yn ogystal â rheoli'r swyddfa, mae ganddi gymhwyster NVQ lefel 2 mewn iechyd a gofal cymdeithasol sy’n golygu fod ganddi ddealltwriaeth ymarferol o redeg y Cartref Gofal o ddydd i ddydd.

Elain Morris

Elain Morris

Uwch Ofalwr


Elain yw Uwch Ofalwr Cartref Bryn yr Eglwys, ac mae wedi bod yn y swydd ers 2017. Mae ganddi gymhwyster NVQ lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac mae hi hefyd yn enillydd balch Gwobr Gofalu yn y Gymraeg 2024 (a ddyfarnwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru).

Darren Foster

Darren Foster

Uwch Gogydd


Darren yw ein Uwch Gogydd ers 2016. Mae'n gyfrifol am y trefniadau coginio a’r fwydlen, ac mae’n ymfalchïo yn ansawdd y prydau sy'n cael eu paratoi a'u gweini. Yn ogystal, mae Darren wedi bod yn rownd derfynol gwobr Cogydd y flwyddyn Fforwm Gofal Cymru.

Yn ogystal â'r tîm rheoli, mae gennym ni hefyd:


  • 7 Nyrs Gofrestredig

  • 2 Uwch Ofalwr

  • 14 Gofalwr

  • 4 aelod o staff y gegin

  • 1 Cynorthwyydd Golchi Dillad

  • 1 Person Cynnal a Chadw