Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar lesiant emosiynol yr unigolyn drwy gynnig rhaglen ddyddiol o weithgareddau hamdden yn amrywio o gemau, cwisiau, ymarferion ac ati. Pwrpas y rhaglen yw creu diddordeb, ysgogi a chynnal cymdeithasgarwch pob unigolyn. Yn ogystal, rydym yn trefnu llu o gyngherddau a digwyddiadau sy'n cynnwys ysgolion a chorau lleol. Rydym hefyd yn trefnu partïon penodol i ddathlu digwyddiadau pwysig fel penblwyddi, penblwyddi priodas ac ati.