Diwrnod Dolig - Cafwyd diwrnod penigamp yn y Cartref gyda Sion Corn yn ymweld ar preswylwyr hefo llu o anrhegion ar gyfer pawb! Darparwyd cinio twrci blasus gan Darren a Mike. Braf oedd cael rhan fwyaf yn eistedded yn gynhesol gyda eu gilydd tra yn sgwrsio a mwynhau eu cinio. Diolch yn fawr i pawb o'r staff am wneud cyn gymaint o ymdrech ar gyfer y diwrnod.
Penblwydd - Dathlwyd Penblwydd Mrs Brenda Mcdonnell (Blaenau Ffestiniog) yn ystod mis Rhagfyr gyda anrheg a chacen ac roedd wrth ei bodd hefo'r trefniadau.
Croeso - Hoffem groesawu Mrs Thelma Roberts (Pandy Tudur) ac Mrs Eleanor Roberts (Caernarfon) fel preswylwyr newydd i'r Cartref.
Parti Gwaith - Cafwyd noson hwyliog ym mharti staff y Cartref yng Ngwesty Pen y Bryn Bae Colwyn ar y 4ydd o Ragfyr. Braf oedd cael gweld pawb yn mwynhau - y bwyd blasus, y diodydd cyson ac agor eu anrhegion 'secret santa'!!
Gweithgareddau yr Wyl - Bu llu o adloniant yn y Cartref dros yr Wyl yn cynnwys cyngherddau gan Gor Llangwm, plant Ysgol Ysbyty Ifan a chanu carolau gyda Mrs Mererid Williams. Cynhaliwyd dau wasanaeth crefyddol gyda’r cyntaf dan arweiniad y Tad Umekachikelu o'r Eglwys Gatholigaidd yn Llanrwst. Cafwyd ail wasanaeth arbennig gan y Parchedig Brian Evans o Chapeli Rhuthyn a ddaeth ychydig o'i gynilleidfa gydag ef i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Yn dilyn trefniadau trylwyr gofalwraig Mary Roberts - bu gwahanol gwethgaredd ar gyfer pob diwrnod a fu'n amrywio o chwis Nadoligaidd, karioki, crefft i patomine y staff! Diolch hefyd i'n gofalwr George Michael am ddod a'i brojector a sgrin i gael dangos ambell i hen ffilm ym mharlwr y Cartref a cafodd ei droi yn 'bictiwrs' am brynhawn!
Cydymdeimlo - Hoffem yrru ein cydymdeimlad dwysaf tuag at teulu y diweddar Mrs Ellen Mairiona Jones (Llanrwst gynt). Bu 'Rona' gyda ni yn y Cartref ers dros pedair blynedd bellach a bu colled mawr ar ei h'ol. Roedd yn gymeriad unigryw ac annwyl dros ben ac yn ymroddedig tuag at ei theulu. Diolch yn fawr i Elfrys, Wyn, Huw ac Rhiannon am eich holl cefnogaeth ohonom yn ystod gwaeledd eich Mam. Yn yr un modd cydymdeimlwn gyda teulu y diweddar Mrs Medwen Jones (Blaenau Ffestiniog gynt) a fu gyda ni yma yn y Cartref ers bron i bedair blynedd bellach. Cofiwn Medwen fel Mam cariadus iawn i Eryl a Nia ac hefyd fel roedd yn ymdopi ymhob gweithgaredd yn y Cartref. Bydd colled mawr ar ei h’ol ac hefyd ar ol ei theulu gofalgar.
Dyrchafiad Swydd - Hoffem longyfarch ein Nyrs Kelsey Parry (Llangernyw) sydd wedi cael dyfarchiad i'w rol newydd fel Gorychwyliwraig Clinigol y Cartref. Bydd ei rol yn cynnwys cymeryd cyfrifoldeb am yr holl feddyginiaeth yn ogystal ac ail drefnu ein h'ystafell glinigol. Llongyfarchiadau mawr Kelsey!
Gwyliau - Mwynhaoedd ein uwch ofalwraig Elain Morris wythnos o wyliau gyda dathliadau ei phenblwydd yn cyrraedd 30 mlwydd oed! Bu'n siopa yn archfarchnadoedd Manceinion ymysg ambell i noson allan. Llongyfarchiadau mawr Elain! Bu ein Rheolwraig Nyrsio Meryl Welsby yn Krakow wsnos cyn y Dolig gyda'r plant Morgan a Mali yn ymweld ac Auschwitz, Amgueddfa hen ffatri Shindlers (ac achubodd cyn gymaint o'r Iddewon) a thaith o amgylch yr ychydig Synagogiaidd sydd dal yn parhau yn Krakow. Bu'r seibiant yn un theimladwy dros ben yn enwedig o ystyried tywydd oer Poland yn ystod mis Rhagfyr a bu raid i nhw aros tri diwrnod ychwanegol o achos niwl trwchus yn awyrlys Krakow. Braf oedd cael nhw'n do'l ar drothwy'r Nadolig. Diolch i'n Prif Nyrs Glinigol Gabi Sabadus ac i'n Gorychwylwraig Clinical Kelsey Parry am ofalu am y Cartref yn ystod absenoldeb Meryl.
Gair o ddiolch - Diolch yn fawr i bawb o'r preswylwyr a'u teuluoedd am y llu o anrhegion a chyfraniadau derbynnion fel staff y Cartref. 'Rydym yn gwerthfawrogi yr holl ddanteithion blasus ar cyfraniadau i'n galluogi cael noson allan yn fuan. Diolch hefyd i phawb a gymerodd rhan yn ein raffl eto eleni a gyfrannodd tuag at y llu o wobrau. Bu nifer o ennillwyr ar ol i'r raffl gael ei thynnu rhwng y Dolg a'r flwyddyn newydd.
Blwyddyn Newydd Dda ichi i gyd!!


