Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Mehefin - Awst 2025

Croeso

Hoffem groesawu preswylwraig newydd i’r Cartref sef Mrs Anona Edwards o Maentwrog. Gobeithio eich bod yn setlo’n dda yn ein plith. Hoffai pawb hefyd groesawu gofalwr newydd i’r Cartref, Sef Jonathan Jones. Mae Jonathan yn brodori o Abergele a gyda nifer o flynyddoedd o brofiad yn maes Gofal a Iechyd. Mae Jonathan hefyd gyda cymhwyster lefel 3 Diploma mewn Gofal a Iechyd Oedolion ac yn siaradwr cymraeg. Pob lwc iddo yn y swydd newydd!

Penblwydd y Cartref yn 35 mlwydd oed

Yn mis Mehefin, cafwyd parti i ddathlu 35 mlynedd ers sefydlu Cartref Bryn yr Eglwys hefo ein Rheolwraig Nyrsio yn rhedeg y Cartref ers 1990! Cychwynwyd gyda deg o breswylwyr a dros amser mae’r cyniferoedd wedi cynnyddu erbyn hyn i drideg ar ol nifer o estyniadau. Diolch yn fawr i Mererid Williams (Merch annwyl ein preswylwraig Mrs Dorothy Jones) am fod mor barod i’n diddanu yn ystod y parti dathlu drwy chwarae nifer o emynau a chaneuon adnabyddus ar yr organ. Braf oedd cael gweld nifer o hen aelodau o staff ar y diwrnod yn gyhud a ein gwestai arbennig – Mr Rob Davies o Llanrwst. Modryb Rob oedd ein preswylwraig cyntaf yn y Cartref yr holl flynyddoedd yn d’ol! ‘Roedd hi’n anrhydedd mawr cael dathlu carreg filltir fel hon. Diolch i’r Cogyddion am ddarparu lluniaeth a diodydd ar gyfer y parti ac i’n cyn aelod staff – Hannah Keating am ddarparu ac addurno cacen mor hyfryd. Yn dilyn llwyddiant dathlu penblwydd y Cartref, cafodd Meryl ei gwahodd i gynnal sgwrs ar Bore Cothi ar Radio Cymru. Hefyd bu nifer o gyhoeddusrwydd gyda cyfweliadau eraill yn y papurau newydd lleol.

Gwyliau

Mwynhaodd nifer o'r staff wyliau dros y ddau fis diwethaf. Bu ein Nyrs Clinigol ni Gabi Sabadus ar ei gwyliau yn Romania yn ymweld a theulu a ffrindiau. Dathlodd Gabi briodas ei nith yn ystod ei h’amser i ffwrdd. Bu ein Nyrs Kelsey Parry ar ei gwyliau yn Groeg am wythnos i hefyd ddathlu priodas ei ffrind. Roedd lluniau’r ddwy briodas yn hyfryd! Mwynhaodd ein Rheolwraig Nyrsio Meryl Welsby rhai dyddiau i ffwrdd yn Amsterdam gyda’i ffrind, ar plant Morgan a Mali. Mwynhawyd daith cerdded Iddewig ar ol ymweld a thy Anne Frank a’r Amgueddfa Van Gough. Bu uwchofalwraig Elain Morris yn y Sioe Frenhinol gyda’i Thad yn arddangos ei golomenod gyda llwyddiant ysgubol. Bu Nicola Ellis hefyd i ffwrdd yn y Sioe Frenhinol hefyd gyda’i gŵr Aled.

Penblwydd Hapus

Dathlwyd nifer eu penblwyddi dros y tri mis dwethaf. Hoffem ddiolch yn ofnadwy i’r cogyddion am ddarparu cacenau penblwydd arbennig i bob un ohonynt. Diolch i’r gofalwyr am hefyd wneud yn siwr bod yna gerdyn ac anrheg ar gyfer pawb. Dathlodd Mrs Dorothy Jones ei diwrnod arbennig gyda ei theulu. Darparwyd parti bychan ar eu cyfer gan bod on achlysur arbennig iddi gyrraedd h’oedran mawr yn 90 oed. Penblwydd arall o sylw arbennig oedd un Mrs Lena Jones yn 95 oed. Hoffai’r staff ddiolch i deulu Lena am y cacennau blasus a ddaetho nhw i’r Cartref. Heb anghofio Penblwydd arbennig Mrs Ena Wynne yn 99 mlwydd oed. ‘Roedd Mrs Wynne yn hen Brifathrawes ysgol gynradd Llanrwst cyn iddi gael ei h’ethol yn Faeres yn Sir Conwy a cael ei h’ymdrechion gael eu cydnabod gyda MBE.

Parti bwmp

Hoffem ddymuno pob lwc i’n Nyrs Jeevan Jyoti yn ystod ei chyfnod mamolaeth. Cynhalwyd Cartref Bryn yr Eglwys eu ‘parti bwmp’ cyntaf gyda nifer o staff y Cartref yn mwynhau eu hunain. Diolch yn fawr i Meryl Welsby am drefnu y parti ac am ddarparu bwffe anhygoel ar fizz! Roedd y parti llawn gemau hwyliog. Roedd Jeevan yn llethu gyda haelioni y staff tuag at hi a’r babi newydd. Diolch i bawb am droi fyny, roedd yn llwyddiant mawr!

H’yfforddiant

Bu’r staff yn brysur iawn y mis dwethaf yn cwblhau cyrsiau cysylltiedig a’r croen a sut i atal briwiau y croen a welwyd weithiau gyda pobl sy’n treulio amser hir yn eu gwlau. Cynhaliwyd hefyd weithdy gan Meryl ar gyfer y Nyrsus ar sut i gynllunio gofal unigryw bawb o’n preswylwyr.

Gweithgareddau Hamddenol

Mae nifer o’n preswylwyr wedi manteisio ar y tywydd braf denni wedi ei fwynhau gyda llawer yn mynd am dro i’r Pentref ac ambell i un yn mwynhau paned yn y ‘Bocs Bwyd’. Rydym mor ffodus o gael y caffi yma yn gwasanaethu’r gymuned. Bu Mark Kendall (ein unigolyn trin a gofal) yn brysur yn adeiladu dau ‘gazebo’ yn patio’r Cartref a braf oedd gweld cynnifer o’n preswylwyr yn cymeryd mantais o eistedd allan yn ystod prynhawniau braf. Cynhaliwyd ambell i brynhawn o adloniant – carioca, cwisiau, gorffen y ddihareb, ymarferion cadeiriau ayyb. Paratowyd y lolfa fwyaf ar gyfer ac i wylio y prif ddigwyddiadau blynyddol ar S4C, yn cynnwys y Sioe Frenhinol Cymreig a’r Eisteddfod Genedlaethol o Wrecsam.

Swydd Gwag

Hoffem hysbysu bod ganddom swydd ar gael fel glanhawr rhan amswer (i weithio oddeutu 28 awr yr wsnos). Mae’r swydd hon yn hyblyg o fewn amser cychwyn a gorffen ac h’wyrach yn addas ar gyfer rhiant plant ysgol. Os oes rywyn gyda diddordeb yna cysylltwch a ni ar c.b.y.e@hotmail.co.uk neu drwy ffon ar 01690770384.

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys