Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Mawrth 2026

Cyfarchion

Dathlwyd tair ei penblwyddi yn ystod y mis. Diolch i’n Cogyddion am ddarparu cacen, anrheg a chardiau i Mrs Dorothy Archer (Cwm Penmachno), Mrs Dorothy Roberts (Fron Goch, Bala) ac Mrs Sheila Wright (y Bermo).

  • Mrs Sheila Wright yn mwynhau ei phen-blwydd yn y Cartref Gofal

Cydymdeimlo 

Hoffem gydymdeimlo gyda teulu a ffrindiau y diweddar Mrs Brenda Jones o Cerrigydrudion gynt. Arferai Brenda gadw siop yn y pentref ac roedd yn gymeriad annwyl yn ei chymuned.

Gwyliau

Bu nifer o staff y Cartref ar eu gwyliau yn ystod y mis. Mwynhaodd ein Gofalwraig Kim bythefnos hefo ei Gwr yn Sbaen, tra bu ein Gofalwraig Mavis hefo ei theulu yn Iwerddon a bu Meryl ein Rheolwraig Nyrsio yn Center Parcs yng Nghoedwigaeth Sherwood hefo ei ffrind a’r plant - Morgan a Mali. ‘Rydym yn falch o weld pawb yn d’ol yn eu gwaith erbyn hyn.

Croeso

Hoffem groesawu preswylwr newydd i’r Cartref sef Mr Brian Collis o Blaenau Ffestiniog gan obeithio y gwneith setlo yn dda yn ein mysg. Yn yr un modd croesawn Kasun De Silva sydd wedi ymuno a’n tim o Ofalwyr. Daw Kasun atom ar ol gwethio mewn Cartrefi yn Llundain ac ar hyn o bryd mae yn cwblhau ei gwrs ‘sefydlu i’r gweithle’.

Gweithgareddau

Diolch i chogyddion y Cartref am ddarparu cinio cig oen cymreig arbennig ar gyfer Gwyl Dewi. Addurnwyd pobman gyda llu o faneri cymreig a phentyrau o gennin pedr. Cafwyd cwis i ddilyn ar thema Cymru a Dewi ein Nawddsant. Ar gyfer Sul y Mamau - trefnwyd prynhawn crefftau o wneud cardiau. Gweithgareddau eraill a gafwyd yn ystod y mis oedd ‘prynhawn maldodi’ (Pampering) ar gyfer y merched, prynhawn offerynol gan Mrs Mererid Williams yn chwarae’r piano. Diolch hefyd i’n Gofalwraig Gwawr am ddod a’i chi am brynhawn i ddiddori’r preswylwyr. Jake oedd enw’r ci ac roedd yn oedrannus (17 mlwydd oed) ac yn ‘gi achub’. Roedd nifer yn y Cartref wedi dotio rhoi mwythau iddo! Diolch i’r Gofalwyr ac yn arbennig i Mrs Mererid Williams am drefnu a chynnal cyn gymaint o weithgareddau y mis hwn. Mae bywyd mewn Cartref yn amal yn gallu bod yn undonog a chael rhyw fath o weithgaredd pob diwrnod yn llesol iawn i’r enaid.

H’yfforddiant

Pob llwyddiant i’n Goruchwyliwr Clinigol ni (Nyrs Kelsey Parry) yn ei chwrs ‘gofal lliniarol’ (palliative care). Bydd y cwrs yn cymeryd hyd at wyth mis i’w gwblhau a bydd o ddefnydd mawr inni yma yn y Cartref. Pob lwc Kelsey!

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys