Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Mai 2026

PARTI ELAIN 

Mwynhaodd nifer o staff y Cartref noson hwyliog dros ben yn Con Amici yn Nimbych yn ffarwelio a'n Uwchofalwraig Elain Morris sydd yn ein gadael am gyfnod o famolaeth! Bu Elain yn brysur drwy'r noson yn agor pentwr anrhegion ar gyfer y babi ac roedd wedi gwirioni hefo derbyn cyn gymaint o ddillad!

CROESO

Hoffem groesawu preswylwyr newydd I'r Cartref sef Mr Medwyn Jones (Penrhyndraedraeth) ac Mr Wyn Roberts (Caergybi). Gobeithio y gwnewch setlo yn dda yn ein mysg.

GWYLIAU

Cafodd ein Nyrs Uwch Glinigol ni (Kelsey Edwards) ddyddiau boddhaol yn Nilyn hefo'i chymar a'i ffrindiau yn gwylio rhai gemau rygbi merched rhyngwadol. Yn yr un modd, mwyhaodd ein Gofalwr George Michael rhai wsnosau yn Kerala (De India) ar achlysur priodas ei Chwaer a braf oedd cael gweld y lluniau lliwgar o'r briodas ar ol iddo ddychwelyd. Mwynhaodd ein Gofalwraig Bethan Evans wsnos ffwrdd hefo'i teulu ifanc yn ymweld a nifer o draethau lleol yn cymeryd mantais o'r tywydd hafaidd. 

PENBLWYDD HAPUS

Dathlodd Mrs Glenys Jones (Trawfynnydd) ac Mr Wyn Roberts (Caergybi) eu penblwydd yn ystod y mis. Diolch yn fawr I staff y gegin am ddarparu cacen, anrheg a chardiau ar gyfer y ddau achlysur. 

BLODAU

Bu prysurdeb mawr yn y Cartref ers rhai wythnosau gyda'r preswylwyr yn brysur plannu blodau mewn potiau I addurno yr ardd flaen a phatio cefn y Cartref. Diolch I Mike Cardenas (Cegin) a Mark Kendall (cynnal a chadw) am fod yn brysur dyfrio y potiau yn ddyddiol ac hefyd I'r cogyddion a fu'n brysur cadw hen ddail te. Syniad Mike oedd hwn - I ychwnegu dail te I'r dyfrio yn ddyddiol -  dull a defnyddiwyd adre ganddo yn y Philippines ac yn ol tyfiant y blodau y llynedd mae wedi profi yn ddull llwyddianus o faethu y planhigion. Gawn weld sut fyddant yn dod yn eu blaenau eleni!

  • Mr Bernant Hughes (Ruthin) hefo gofalwaig Mavis yn mwynhau plannu blodau

GWEITHGAREDDAU

Manteisiodd nifer o'r preswylwyr ar y tywydd braf o gael eistedd allan o dan y gazebo yn mhatio cefn y Cartref. Mwynhawyd adroddiadau dyddiol hefyd o Eisteddfod yr Urdd a oedd yn cael ei ddarlledu ar S4C o Ynys Mon. Diolch hefyd I Gofalwraig Mary Roberts am drefnu prynhawn ar gyfer y preswylwyr o gemau bwrdd (dominos, 'snakes and ladders', cardiau). Braf oedd gweld cyn nifer o'r preswylwyr yn bod mor gystadleuol! 

DATHLU 'DIWRNOD Y NYRSUS'

Diolch yn fawr I'n Nyrs Uwch Glinigol ni (Kelsey Edwards) am ddarparu arddangosfa arbennig yn dathlu 'diwrnod y nyrsus' ar y 12ed o fis Mai. Mae'r arddangosfa dal I'w weld yn y cyntedd ac yn ddiddorol dros ben - yn cynnwys hanes a datblygiad nyrsio ac hefyd hanes Betsi Cadwaladr (o'r Bala) a fu'n sylfaenol a blaenllaw yn sefydlu graen nyrsio ym Mhrydain ar ol ei gwaith hefo Florence Nightingale yn Scutari yn gofalu am y milwyr a anafwyd yn ystod Rhyfel y Crimea. Diolch yn fawr Kelsey am ei h'ymdrech I uchafbwyntio rol bwysig y nyrsus.

GENEDIGAETH

Llongyfarchiadau mawr I'n Uwch Ofalwraig Elain Morris a'i Chymar Dafydd Royle ar achlysur genedigaeth eu hogyn bach annwyl - Elis Hedd! Methu disgwyl cael gweld y bychan yn fuan!

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys