Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Ionawr 2026

Llwyddiant y Gegin - Cafwyd arolygiad annisgwyl yng nghegin y Cartref gan arolygydd Iechyd ac Amgylchedd Cyngor Sir Conwy ar y 23ain o Ionawr. Balch yr ydym o gyhoeddi ein bod fel Cartref wedi cael dyfarniad a sgor uchel o 5 am glendid bwyd! Llongyfarchiadau mawr i’n tim cegin - Darren, Shane, Mike a Mark.

Salwch - ‘Rydym yn gyrru cyfarchion cynnes i’n Gofalwraig annwyl Nimmy Divasia sydd wedi bod ffwrdd o’i gwaith am rhai wythnosau gyda salwch. Mae hiraeth mawr am ei gwen cynhesol a gobeithio cael gweld hi’n dol yn fuan.

Gwyliau - Mae ein gofalwr George Michael wedi mwynhau mis o wyliau adref gyda ei deulu yn Kerala, De India. Yn yr un un modd bu ein gofalwraig Kasia Dudziak adref yn ymweld a’i rhieni yn Krakow a braf yr ydym o glywed bod Tad Kasia yn gwella ar ol ei law driniaeth a gafodd yn ddiweddar.

Croeso - Hoffem groesawu preswylwyr newydd i’r Cartref sef Mrs Margaret Jones (Rhyduchaf) ac Mrs Dorothy Roberts (Y Bala). Gobeithio y gwnewch chi setlo yn dda yn ein mysg.

Cyfarchion Penblwydd - Dathlwyd nifer eu penblwydd yn ystod y mis gyda chacen penblwydd, anrheg a cherdyn. Cyfarchion i Mrs Muriel Payne (Conwy), Mrs Gwenda Shepard (Blaenau Ffestiniog), Mrs Anona Edwards (Maentwrog) ac Mrs Wendy Bolden (Pentrefoelas). Gobeithio y gwnaeth pawb fwynhau eu diwrnod arbennig.

Cydymdeimlo - Hoffem gydymdeimlo gyda teuluoedd y diweddar Mrs Thelma Roberts (Pandy Tudur), Mrs Eleanor Griffiths (Caernarfon) ac Mr Keith Scott (Llandrillo yn Rhos). Diolch am bob cefnogaeth a gawsom gan y teuluoedd yn ystod gwaeledd y rhain a gollwyd.

Gwasanaethau’r Sul - Diolch yn fawr i preswylwraig Mrs Dorothy Archer (Cwm Penmachno) sydd wedi bod yn darparru a chynal gwasanaethau dwy-ieithog pob prynhawn Sul ar gyfer preswylwyr y Cartref, yn ddi-ffuant. Diolch hefyd i tim gofal y Cartref am arwain y canu yn ystod pob gwasanaeth gyda emynau adnabyddus. Mae gwasanaethau hyn wedi profi yn boblogaidd dros ben a diolch i preswylwr Mr Bernanat Hughes (Ruthin) am godi’r canu.

Diwrnod Cynta’r Flwyddyn - Cafwyd dathliadau yn cynnwys cerddoriaeth a chinio arbennig (Cig Oen Cymreig, tatws rhost, llysiau a grevi). Croesawyd y flwyddyn newydd gyda ambell i lasiad o win hefo’r lluniaeth.

Wefan Newydd - Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein wefan newydd yn cael ei lawnsio ar gyfer y Cartref (www.cartrefbrynyreglwys.com). Mae’r wefan wedi cymeryd yn hirach na’r disgwyl iw baratoi felly rydem yn falch oi gael yn ‘fyw’ o’r diwedd. Bydd ein gwefan yn cynnwys ymholiadau cyffredinol am ein gwasanaeth, ein cylchlythyr misol, manylion ein h’arolwg diweddara a swyddi sydd ar gael. 

  • Mrs Anona Edwards yn dathlu ei phenblwydd hefo Gofalwraig Nimmy

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys