Dathliadau
Dathlodd dau o'n preswylwyr eu penblwyddi yn ystod y mis sef Mrs Medwen Jones ac Mrs Gwen Hughes. Diolch i'r cogyddion am ddarparu cacen a te bach priodol ar gyfer y ddau ddathliad.
Llongyfarchiadau
Hoffem longyfarch ein Nyrs - Kelsey Parry ar achlysur ei phriodas gyda ei chymar Clarrisa. Mynychodd nifer o staff y Cartref ei phrynhawn 'iar' yng Nghonwy ac hefyd eu parti priodas yn yr Hafod ym Metws-y-Coed. Rydym yn falch o glywed eu bod wedi mwynhau eich mis mel yn Venice! Llongyfarchiadau hefyd i'n Gofalwraig Nimmy Devasia, sydd wedi bod hefo ni yn y Cartref ers dros tair blynedd bellach a sydd wedi dychwelyd i'w Chartref yn Kerala (India) I briodi ei chymar. Gobeithio y bydd y ddau bar yn hapus iawn.
Cydymdeimlo
Hoffem gydymdeimlo gyda teulu y diweddar Mr John Morris Edwards (Bala a Parc gynt). Roedd John yn gymeriad hoffus iawn a oedd yn gallu bod yn un ddireudus ar adegau! Roedd wedi bod hefo ni yn y Cartref ers dros ddeg mlynedd a cyn hyn bu'n mynychu gofal dydd yn y Cartref ar ddiwrnodau tra dal i fyw yn y Bala. Diolch yn fawr i Manon, Siwan a Llyr am eich cefnogaeth ohonom dros y blynyddoedd. Bydd hi'n chwith iawn yn y Cartref a bydd colled mawr a'r ol John ar ol yr holl flynyddoedd. Yn yr un modd hoffem gydymdeimlo gyda Janice, Judith, Kevin a Keith - teulu annwyl y diweddar Mrs Maureen Roberts (Blaenau Ffestiniog gynt). Eto bu Maureen hefo ni yn y Cartref ers dros bum mlynedd a bydd colled mawr o gael gweld ei gwen siriol a'i hiwmor chwareus. Cyn ymddeol, bu Maureen yn nyrsio yn Ysbytai Lerpwl ac wedyn yn 'Ward Sister' yn Ysbyty Blaenau Ffestioniog. Cydymdeimlwn hefyd gyda Iwan a Sioned o golli Tad annwyl sef y diweddar Mr Stanley Davies (Bala gynt) ar ol gystudd blin. Cyn ei ymddeoliad, cafodd Stan yrfa aeng fel Heddwas ar draws Gogledd Cymru ac roedd yn gymeriad adnabyddus yn ei ardal. Bydd colled mawr inni I gyd yn y Cartref.
Lluniau
Cafwyd diwrnod cyffrous yn croesawu photographwr proffesiynnol i'r Cartref I dynnu lluniau ar gyfer wefan newydd y Cartref! 'Roedd nifer o staff y Cartref wrth eu boddau a sywler bod ein unigolyn 'cynnal a chadw' (Mark Kendall) yn dueddol o fod yng nghefndir bron pob llun!! Diolch yn fawr i'n photograffydd Mandy Jones am fynd i cyn gymaint o drafferth hefo'r lluniau.
Gwyliau
Mwynhaodd ein Rheolwraig Nyrsio Meryl Welsby ei gwyliau cyn ail gychwyn tymor newydd yr ysgol hefo'r plant (Morgan a Mali) yn deifio scwba yn Nhwrci. Mwynhawyd treuddio mewn I longddrylliad ac hefyd pleser oedd cael gweld awyren tan for am y tro cyntaf. Diolch i'n Arweinydd Nyrsio ni Gabi Sabadus am gymeryd awenau y Cartref yn ystod absennoldeb Meryl.
Croeso
Carem estyn croeso cynnes I Mrs Joan Read (Penmachno) ac i Mrs Gwen Hughes (Bala) fel preswylwyr newydd i'r Cartref. Gobeithio y gwnewch setlo yn dda ym Mryn yr Eglwys!
