Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Newyddlen Chwefror 2026

Croeso: Hoffem groesawu dwy breswylwraig newydd i'r Cartref sef Mrs Sheila Wright (Dyffryn Ardudwy) ac Mrs Brenda Jones (Cerrigydrudion). Gobeithio y gwneith y ddwy setlo yn ein mysg yma ym Mryn yr Eglwys.

Gwyliau: Mwynhawodd ein gofalwraig Neethu bythefnos o wyliau gyda ei ffrindiau yn Llundain tra treuliodd Mark (Kendall) ei wyliau adref, yn brysur ymarfer gyda'r band 'yr Anghysur' ar gyfer cyngherddau yn y dyfodol. Braf yw cael y ddau aelod o staff yn d'ol yn eu gwaith erbyn hyn. 

Dychwelyd:  Balch yr ydym o gyhoeddi bod ein Nyrs Jeevan wedi dychwelyd o'i chyfnod mamolaeth ac erbyn hyn yn d'ol yn ei gwaith. Mae'n bleser ei chael yn nol yn cyfrannu tuag at ein tim nyrsio.

Cydymdeimlad: Hoffem gydymdeimlo gyda teulu y diweddar Mrs Margaret Jones (Rhyduchaf gynt). Roedd Margaret yn gymeriad annwyl, hoffus a cherddorol iawn a bu yn derbyn gofal dyddiol hefo ni yn y Cartref cyn ymuno gyda ni'n llawn amser. 

Gweithgareddau: Diolch yn fawr I Mrs Mererid Williams am ddod atom i'n diddanu unwaith eto y mis hwn gyda ei chyfeilio a'i chanu swynnol. Mwynhawyd y prynhawn yn fawr iawn gyda nifer o'r preswylwyr yn cyd ganu emynau adnabyddus a chaneuon traddodiadol gwerinol. Gobeithio y cawn ei chwmni eto'n fuan. Diolch hefyd i'n gofalwraig talentog Mary Roberts am drefnu prynhawn chrefft ar gyfer San Ffolant. Trefnodd I nifer o'r preswylwyr greu chardiau arbennig o liwgar a cafwyd hwyl dros ben. Yn yr un un modd diolch i'n Cogyddion Darren a Shane am baratoi prynhawn hwyliog yn gweini crempogau gyda amrywiaeth o cynhwysion ar gyfer Diwrnod Crempog. Yn anffodus, ni chafodd r'yn o'n cogyddion lawer o hwyl ar daflu eu crempogau o'r badell eleni! 

Penblwydd: Dathlwyd dau benblwydd yn ystod y mis sef Mr Kenneth Humphreys (Porthmadog) ac Mrs Margaret Griffiths (Blaenau Ffestiniog). Braf oedd gweld y ddau yn hapus gyda'r dathliadau o gael chacen, cerdyn ac anrheg. 

  • Mrs Margaret Griffiths yn dal ei chacen pen-blwydd gyda chanhwyllau

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys