Cwrs Cymraeg
Er bod nifer o'n staff yn gallu cyfarthrebu rhywfaint yn y Gymraeg erbyn hyn ar ol dysgu gyda'r 'say something in Welsh' ap - penderfynom yn mis Medi, gychwyn cwrs ffurfiol I ddysgu y Gymraeg I holl staff y Cartref. Yn gysylltiedig a Prifysgol Bangor - daeth Mair Rees (tiwtor cymraeg y Brifysgol) atom I ddechrau cwrs wyth wythnos I ganran o staff y Cartref am ddwy awr pob prynhawn Gwener. Mae'r cwrs unigryw hwn wedi cael ei ddarparu ar gyfer staff sy'n gweithio yn y maes gofal a iechyd sy'n canolbwyntio ar siarad yn h'ytrach na gwaith ysgrifennedig. Y bwriad ydi cychwyn gweddill y staff ar yr un un cwrs unwaith daw yr un presennol I ben. Cafwyd adborth positif iawn gan staff y Cartref ar ol pythefnos o fynychu'r cwrs. Mae'n debyg bod Mair y tiwtor cymraeg yn dysgu'r staff llawer iawn drwy gael iddynt 'chwarae rol' ac felly cael iddynt ymarfer siarad hefo'u gilydd. Diolch yn fawr Mair ac hefyd I Brifysgol Bangor and gynnig y cwrs amhrisiadwy hwn ar ein cyfer.
Ysbyty
Braf yr ydym o gael gweld Mr Bryan Brake ac Ms Elizabeth Thornton wedi dychwelyd i'r Cartref ar ol ysbaid yn yr Ysbyty. Gobeithio eich bod wedi gwella erbyn hyn. Gwyliau - Bu ein h'arwenydd Nyrsio ni (Gabi Sabadus) ar wyliau hefo'i gwr yn ymweld ai theulu yn Cluz, Romania am bythefnos. Mwynhaodd ein Gofalwraig Nicola Ellis wyliau gyda ei theulu yn Teneriffe tra mae ein Uwch Ofalwraig Anna-Liza a'i gwr Mike ar hyn o bryd yn ymweld a'u teuluoedd am fis yn ynysoedd y Filipines. Diolch yn fawr I bawb a fu'n gweithio'n ychawnegol yn ystod eu h'absenoldeb.
Croese
Hoffem groesawu Mr David Ellis (o'r Bala) fel preswylwr newydd I'r Cartref. Croesawn hefyd Nyrs newydd (Geeta) I'r Cartref ar ol gwblhau gradd meistriol mewn nyrsio yng Ngogledd Lloegr. Yn yr un modd, croesawn Gofalwr Profiadol a cefnder I'n Nyrs Sandhya - sef Narayan Dahal (Naz). Daw Naz atom ar ol gweithio yn y gymuned yn Llundain am rhai blynyddoedd.
Gweithgareddau Hamddennol
Cafwyd mis prysur iawn gyda'r gofalwyr y paratoi nifer o weithgareddau ar gyfer y preswylwyr. Diolch yn arbennig Mary a Nicola am drefnu prynhawn o lunio a dathlu diwrnod 'Owain Glyndwr' ar yr 20ed. Diolch hefyd am dathlu penblwydd Waldo Williams ar y 30ed drwy drafod rhai o'i gerddi a trefnu prynhawn arlunio I gofio am 'diolchgarwch'. Gwerthfawrogwyd ymdrechion y gofalwyr gyda darparru'r dathliadau hyn.
Penblwydd
Diolch y fawr I'r cogyddion am ddarparu cacen, cardiau ac anrheg I ddathlu penblwydd ein preswylwyr Mr Brian Collins ac Mr Trefor Davies. Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich diwrnod arbennig.