Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Cylchlythyr Mehefin 2026

Croeso

Hoffem groesawu Mrs Brenda Mills o Cerrigydrudion fel preswylwr newydd I'r Cartref. Croeso hefyd I Mam a Merch (Gwenan ac Helen Williams o Blaenau Ffestiniog) I'r Cartref. Gobeithio y gwnewch chi I gyd setlo yn dda yn ein mysg.

Penblwydd Hapus

Cyfarchion cynnes I Mr Bernant Hughes ar achlysur ei benblwydd. Mwynhaodd Barti bach yn y Cartref ymysg ei deulu. Yn yr un modd hoffem yrru cyfarchion I Mrs Lena Jones sydd wedi dathlu ei phenblwydd yn ddiweddar eto ymysg ei theulu. Diolch yn fawr I staff y gegin am ofalu am y cacenau addurniedig, anrheg a chardiau.

Gwyliau

Mwynhaoedd ein Rheolwraig Nyrsio ni Meryl Welsby wythnos yn y Mor Coch ar long 'liverboard' yn deifio I weld nifer o longddrylliadau enwog. Braf oedd cael gweld lluniau a fideos o'r llong HMS Thistlegorm a gafodd ei thrawo yn 1940. Roedd y llong yn cario arfau byddin Prydain I Ogledd Affrica ac mae'r tanciau a'r arfau dal yn glir eu gweld yn waelod y llongddrylliad. Mwynhaodd dau o'n Gofalwyr (Sunitha a Jonathan) hefyd wythnos o wyliau hefo'u teuluoedd a braf yr ydym o'u cael yn d'ol yn eu gwaith.

Cydymdeimlad

Hoffem yrru ein cydymdeimlad dwysaf tuag at ein hoff aelod o staff - Georgina (Ysbyty Ifan), ac hefyd i'w merched Anna a Rhian, yn eu galar o golli gwr a thad annwyl iawn - James, ar ol cystudd blin. Mae hyn yn gyfnod annodd iawn i'r teulu agos hwn a gobeithio bod eich h'atgofion melys yn eich cynnal yn ystod yr amser tryblys hwn. Yn yr un modd, cydymdeimlwn gyda teulu a ffrindiau Miss Elizabeth Bird a fu gyda ni ers dros pedair blynedd bellach. Bydd colled am 'liz' a oedd yn gymeriad hollol unigryw.

Hyfforddiant

Mynychodd ein Prif Nyrs Glinigol ni Gabi Sabadus a'n rheolwraig Meryl gwrs diweddariad blynyddol mewn gofal diwedd oes y mis hwn. Mae hyn yn golygu ein bod fel Cartref yn gallu cynnal ein Tystysgrif Pencampwyr mewn gofal diwedd oes. Cafwyd h'yfforddaint hefyd gan Nyrs Arbennigo Betsi Cadwaladr yn y Cartref ar wahanol prosesau gllinigol. Diolch yn fawr I bawb am fynychu. 

Llongyfarchiadau

Hoffem fel Cartref longyfarch ein Gofalwraig Nimmy Devasia sydd wedi llwyddo yn ddiweddar yn ei chwrs NVQ lefel 2 mewn Gofal Iechyd a Gofal drwy Goleg Cambria. Da iawn ti Nimmy!

Eisteddfod yr Urdd

Cafwyd wythnos hyfryd iawn gyda nifer o'r preswylwyr yn gwylio yr holl gystadlu ar S4C o Eisteddfod yr Urdd. Llongyfarchiadau I'r holl enillwyr!

Bocs Bwyd

Braf iawn ydi cael gweld rhai o'n preswylwyr yn gallu mynd am lluniaeth blasus neu banned I'r caffi defnyddiol iawn hwn yn y Pentre! Diolch am y Croeso!

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys