Cartref Bryn yr Eglwys ar ddiwrnod braf

Cylchlythyr Gorffennaf 2026

Dathliad Arbennig

Llongyfarchiadau mawr I Mrs Ena Wyn (Llanelian gynt) a ddathlodd ei phenblwydd yn 100 oed y mis hwn! Deallom gan teulu Mrs Wyn (John a Sue) bod yna barti mawr wedi cael ei drefnu yn neuadd Llanelian gan ei bod wedi cyfrannu cyn gymaint I'w chymuned ar hyd y blynyddoedd nid yn unig fel brodorwr o'r ardal ond hefyd yn gynrychiolydd cyngor sir. Cofia llawer Mrs Wyn fel prif Athrawes adran babannod ysgol gynradd Llanrwst - a alwyd yn ysgol stryd watling yn ystod y dyddie hi.  Paratowyd barti bach yn y Cartref I ddathlu penblwydd arbennig Ena yn y Cartref a deallom bod wedi derbyn llawer dros gant o gardiau penblwydd sy'n dystiolaeth I'w phoblogrwydd. 

Croeso

Hoffem groesawu Mrs Margaret Ann Evans (Blaenau Ffestiniog) ac Mrs Annette Roberts (Bae Colwyn) fel preswylwyr newydd I'r Cartref. Hefyd treuliodd Mr Medwyn Jones (Penrhyndraedraeth) a Mr David Jones (Llanelian) ysbaid yn y Cartref cyn iddynt ddychwelyd adref.

Gwyliau

Bu nifer o staff y Cartref ar eu gwyliau yn ystod y mis. Bu Mark Kendall (cynnal a chadw) yn Sbaen a bu ein Nyrs Jeevan Jyoti yn Myrmingham hefo ei theulu tra bu ein uwch Nyrs Kelsey Edwards wythnos yn gwersylla. Mwynhaodd ein gofalwraig Nicola Ellis amser gyda ei gwr Aled yn y Sioe Frenhinol a'n Rheolwraig Nyrsio Meryl Welsby wythnos yn Malta. Treuliodd ein gofalwyr Bethan Evans a Kasia Dudziak wyliau adref yn mwynhau y tywydd braf. Braf ydi cael pawb yn dol I'w gwaith erbyn hyn. 

Cydymdeimlo

Hoffem gydymdeimlo gyda teuluoedd a ffrindiau y diweddar Miss Elizabeth Bird (Prestatyn), Miss Brenda Mills (Cerrigydrudion) ac Mrs Wendy Bolden (Pentrefoelas) a bydd colled mawr yn y Cartref ar eu holau.

Ymweliad

Cafwyd prynhawn hoffus iawn pan ddaeth ein uwch ofalwraig Elain Morris a'i babi cyntaf -  Elis Hedd, atom I ymweld a staff a phreswylwyr y Cartref. 'Roedd pawb wedi dotio a gwirionni  ei gael o yma am y tro cyntaf. 

Cyfarchion

Dathlodd Mrs Lena Jones (Blaenau Ffestiniog), Mrs Elizabeth Thornton (Pwllheli) ac Miss Lillian Grace Easom (Pwllheli) eu penblwydd yn ystod y mis. Diolch yn fawr I Cogyddion y Cartref am drefnu parti ac anrhegion ar gyfer pob achlysur.

Tywydd Braf

Bu nifer o'n preswylwyr allan yn ystod y tywydd cynnes - yn mwynhau prynhawn te ar y lawnt neu mynd am dro I'r Pentref. 

Hyfforddiant

Llongyfarchiadau mawr I'n uwch Nyrs ni Kelsey Edwards (Llangernyw) sydd wedi llwyddo cwblhau ei chwrs serennu mewn gofal 'diwedd oes'. Pob lwc hefyd I'n gofalwraig Sunitha sydd newydd gychwyn ei chwrs NVQ lefel 2 mewn iechyd a gofal drwy Goleg Cambria. 

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys