staff catref bryn yr eglwys yn dathlu

Newyddlen Ebrill 2026

Croeso 

Hoffem groesawu preswylwyr newydd I'r Cartref sef Miss Tilly Goodwin (Llanrwst) ac Mrs Betty Edwards (Bala). Croesawn hefyd ein Gofalwraig Nimmy yn do'l yn i'w gwaith ar ol rhai misoedd ffwrdd gyda salwch.

Penblwydd Hapus

Dathlwyd tri penblwydd yn ystod y mis hwn gyda pharti bach yn cynnwys cacen, anrheg a chardiau. Diolch I cogyddion y Cartref am eu paratoadau trylwyr ar gyfer achlysuron penblwydd Mr Brian Brake (80 oed), Mr Raymond Pritchard (Dolwyddelan) ac Mrs Annwen Scott (Bae Penrhyn). 

Gweithgareddau

Diolch yn fawr I Mrs Mererid Williams am ddod atom unwaith eto I ganu a chwarae'r organ. Cafwyd prynhawn bendigedig gyda nifer yn ymuno gyda'r canu. Diolch hefyd I Mark Kendall (aelod cynnal a chadw) am ail drefnu'r gazebo yn galluogi nifer o'n preswylwyr gael mwynhau y tywydd braf ar haul tra'n cysgodi yn yr ardd o dan orchudd. Dathlwyd y 'Pasg' gyda chinio cig oen cymreig a diolch I'n gofawraig Mary Roberts and drefnu prynhawn crefftau I ddilyn yn creu a phaentio wyau pasg I'w h'arddangos yn y cyntedd.

Ymchwil safon gofal

Diolch I bawb a wnaeth fod mor barod I gwblhau ein holidadur yn holi am ein gwasanaeth a'n cyflesterau. Cafwyd ymateb da gyda dros 27 o deuluodd yn cymeryd rhan. Mae'r canlyniadau ar gael ar ein wefan www.cartrefbrynyreglwys.com

Dathliad diwedd blwyddyn y staff

Diolch yn fawr I Warren ac Lucille and eich croeso yn ein Noson Gymdeithasol yng Ngwesty'r Foelas ar y 23ain or mis. Cafwyd noson penigamp gyda bwyd blasus a braf oedd cael gweld oddeutu 20 o aelodau or staff yn mwynhau eu hunain. Diolch in Nyrs Gorychwliedig (Kelsey Edwards) am baratoi y gystadleuaeth darts, I Mary Roberts (gofalwraig) am baratoi y gemau cardiau ac I Nicola Ellis (gofalwraig) am drefnu'r gystadleuaeth dominos! Cafwyd nifer o wobryon doniol a llongyfarchiadau I Tim y Foelas am eu buddugoliaeth yn y Cwis am y Pentref ei hun! Cyflwynwyd Mary Roberts, Neethu Raj ac Nicola Ellis gyda tlysau ar eu llwyddiant yn eu h'yfforddiant NVQ mewn gofal a iechyd. Gyda  cyn cymaint o lwyddiant hefo'r noson gymdeithasol - gobeithiwn drefnu noson arall o debyg yn fuan!

  • staff catref bryn yr eglwys yn dathlu

Cydymdeimlo

Hoffem gydymdeimlo gyda teulu y diweddar Mrs Elizabeth Sulwen Jones (Blaenau Ffestiog). Bu colled mawr yn y Cartref ar ol gwen gynhesol a chyson Sulwen.

Newyddion Cartref Bryn yr Eglwys