NOSON GYMDEITHASOL Y STAFF
Cafwyd noson hwyliog dros ben ar 14 ed o Hydref yn y Foelas. Diolch yn fawr I Dafydd Roberts (Brodwaith) am fod mor barod sefyll I mewn fel galwr bingo hynnod ddifyr! Diolch hefyd I Warren a Lucille am eu croeso a bod mor barod I agor y Foelas ar nos Fercher inni gael cynnal ein nosol gymdeithasol. Braf oedd gweld dros ugain o staff y Cartref yn mwynhau noson o Bingo, bar agored a lluniaeth ysgafn. Cafwyd nifer eu plesio gan ennill gwobryon ariannol a teisebau.
PENBLWYDD
Cyfarchion penblwydd I'n preswylwraig Mrs Margaret Anne Evans (Blaenau Ffestioniog). Dathlwyd gyda cacen, cardiau ac anrhegion yn y Cartref. Llongyfarchiadau hefyd I'n Nyrs Jeevan sydd wedi dathlu penblwydd arbennig wsnos dwetha. Cafwyd casgliad I brynu anrheg o oriawr nyrsio I Jeevan ar ei diwrnod arbennig
H'YFFORDDIANT
Llongyfarchiadau calonnog I'n Gofawr Poblogaidd George Michael ar lwyddo yn ei gwrs NVQ lefel 2 mewn Iechyd a Gofal. Cwblhaodd George y cwrs yn y Cartref gyda chefnogaeth asesydd Coleg Cambria.
CROESO
Hoffem groesawu dau o breswylwyr newydd I'r Cartref sef Mrs Helen Walker (Nellie) o Gaernarfon ac Mr Thomas Denzin o'r Bermo. Gobeithio y gwnewch setlo yn dda yn y Cartref.
GWYLIAU
Braf yr ydym o gael gweld ein gofalwraig uwch, Anna Liza Cardenas a'i gwr Mike yn dol ar ol bod adref yn y Philippines am bump wythnos. Deallom bod y ddau yn falch o ddychwelyd yn I Pentrefoelas ar ol gwres tanbaith ynysoedd y Philipines. Gobeithio y ceith ein gofalwraig Mavis hefyd amser da ar ei mis o wyliau yn ymweld a'i theulu yn d'ol yn Zimbabwe. Mwynhaoedd ein Gofalwraig Bethan wythnos o wylau adref hefo'r plant yn ei chartref adref yn y Clwt (ger Llansannan) tra mwynhaoedd ein Rheolwraig Nyrsio ni Meryl amser yn Nhwrci y mis hwn. Llongyfarchiadau I Meryl ar lwyddo yn ei chwrs fel arweinydd deifio llongddryllliadau'r mor.
CWRS CYMRAEG
Braf ydi gweld cyn-nifer o staff y cartref yn mwynhau eu cwrs wyth wsnos (dysgu cymraeg) syn cael ei gynnal yn y Cartref. Diolch I'n tiwtor Mair Rees (o Brifysgol Bangor) am ofalu bod y cwrs yn ymarferol a hwyliog ar ein cyfer. Braf ydi gweld nifer yn defnyddio mwy o gymraeg yn eu gwaith pob dydd.
