Gwyliau
Diolch yn fawr I'n Nyrsus - Gabi Sabadus a Kelsey Edwards a fu'n rheoli'r Cartref yn ystod absennoldeb Meryl ac Helen Williams (Swyddfa) yn ystod y rhan fwyaf o fis Awst. Bu'r ddwy, hefyd plant Meryl sef Morgan a Mali, yn Fort Cochin a Kallum yn Kerala (De India) yn aros gyda ein Gofalwraig Mary a'i gwr Kevin. Cafwyd amser gwych yn mwynhau diwilliant unigryw India a chael noson ar gwch yn mwynhau y rhwydwaith o afonydd Kerala. Ar ol India, teithiodd y pedwar I ynysoedd y Maldives I nofio a deifio ymysg y siarcod a llongddrylliadau y mor. 'Roedd y trip yn brofiad unwaith mewn oes ac mae edrych ymlaen mawr I glywed eu hanes a'u helynt tra I ffwrdd.
Cyfarchion
Dayhlodd Mr Robert Jones (Bob - Penmachno) ei bemblwydd yn ystod y mis dwethaf. Diolch yn fawr I Cogyddion y Cartref am drefnu parti ac anrhegion ar gyfer yr achlysur.
Llongyfarchiadau
Estynnwn ein dymuniadau gorau I'n Gofalwraig Seren Hughes (Pentrefoelas) sydd wedi cael ei derbyn I Brifysgol Caerdydd I ddilyn gradd biofeddygol. Bydd colled mawr ar ei h'ol yma yn y Cartref fel Gofalwraig penigamp. Llongyfarchiadau hefyd I blant ein Prif Reolwraig Nyrsio ni - Meryl Welsby yn eu canlyniadau TGAU. Cafod Morgan 'C' mewn Saesneg Iaith ac A* mewn Cymraeg Iaith tra cafodd Mali 'B' mewn Saesneg Iaith ac A* hefyd mewn Cymraeg iaith. Byddent yn eistedd y gweddill o'u TGAU yn ystod blwyddyn 11.
- Meryl, Helen, Morgan a Mali at Fort Cochi
Meryl, Helen, Morgan a Mali yn Fort Cochi, Kerala ar ddiwrnod penblwydd dathlu annibyniaeth India (15/08/1947)
