Translation coming soon...
Blwyddyn Newydd Dda
Hoffai pawb o’r Cartref ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i’r preswylwyr, y teuluoedd cefnogol ac phobol lleol i gyd. Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth ac yn gwerthfawrogi eich gymorth trwy’r flwyddyn. Diolch o Galon hefyd am y llu o anrhegion a chyfraniadau caredig yr ydym ni fel staff y Cartref wedi eu derbyn dros yr Wyl oddiwrth y preswylwyr a'u teuluoedd.
Croeso
Hoffem groesawu Nyrs Newydd i’r Cartref sef Kelsey Parry sy'n brodori o Llandudno ond yn bellach yn byw yn Llangernyw. Bu Kelsey yn gweithio yn y sector ers nifer o fllynyddoedd, yn cynnwys gweithio yn yr ICU (Intensive Care Unit) yn Ysbyty Brenhinol Amwythig (Shrewsburry) a gyda phrofiad o weithio mewn hospis - gobeithio y gwneith setlo’n dda yn y Cartref. Croeso hefyd i gofalwraig newydd - Mavis Basopo sydd yn yn ein ymuno o weithio ers rhai blynyddoedd yn Swydd Amwythig er yn wreiddiol o Zimbabwe. Mae Mavis yn barod wedi cwblhau Cwrs Diploma lefel 4 mewn Gofal a Iechyd.
Cydymdeimlad
Hoffem cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Mrs Glenys Owen o Gerrigydrudion. Buodd Glenys gyda ni yma ym Mryn yr Eglwys ers bron i tair blynedd. Bu’n golled enfawr i’r Cartref. Roedd Glenys ô hyd yn hapus gyda gwên ae ei h’wyneb. Hoffai pawb hefyd gydymdeimlo gyda theulu’r ddiweddar Mrs Menna Davies o Blaenau Ffestiniog. Roedd Menna yn gymeriad hoffus a bu chwith hebddi.
Penblwydd Hapus
Hoffai pawb o’r Cartref ddymuno penblwydd hapus iawn i Mrs Muriel Payne, Mrs Gwenda Shepherd o Blaenau Ffestiniog ac Mrs Edwina ‘Wendy’ Bolden o Bentrefoelas. Gobeithiwn eu bod wedi mwynhau eu diwrnod arbennig gyda ni yma ym Mryn yr Eglwys. Diolch eto i’r cogyddion am ddarparu’r gacen penblwydd iddynt.
Gwyliau
Bu’r ofalwraig Mary Roberts ar ei gwyliau y mis yma! Bu Mary yn dôl yn Ne India (Kerala) am fis cyfan yn treulio amser gyda’i theulu a'i ffrindiau! Rydym yn falch o’i chroesawu hi nôl.
Ocsiwn hospis Pentrefoelas
Bu i Cartref Bryn yr Eglwys archebu hanner oen yn ocsiwn hospis Pentrefoelas y mis hwn. Mae’r preswylwyr yn edrych ymlaen i flasu cig oen Gwyndaf Evans Hafod Dinbych yn ystod cinio arbennig Dydd Gwyl Dewi ar y 1af o Fawrth!
Arolygiad tȋm monitro Conwy
Cafwyd arolygiad yn y Cartref yn ystod Ionawr gan dim monitro gofal Conwy -lle y bu ein gwaith yn cael ei arsylwi, yn cynnwys pob agwedd o'r gofal sy'n cael ei gynnig yma ym Mryn yr Eglwys. Bu’r preswylwyr a'r staff yn sgwrsio gyda'r arolygydd. Cafwyd ymateb a chanlyniad da iawn. Hoffem ddiolch i pawb ac yn arbennig i'n Nyrs Glinigol Gabi Sabadus am ei gwaith called yn darparru am yr arolygiad.
Gweithgareddau
Ar y 27ain o Ionawr cynhaliwyd munud o dawelwch yn y Cartref, i feddwl a myfyrio am dristwch digwyddiadau yr holocaust ac yn arbennig chofio am rhyddhau y trigorion o wersyll erchyll Auschwitz 80 mlynedd yn do'l. Yn dilyn hyn, cafwyd trafodaeth hel atgofion gan ein Uwch Ofalwraig Elain Morris am digwyddiadau yr holocaust gyda nifer o gyfraniadau gan y preswylwyr, cyn gwylio'r gwasanaeth unigryw ar y teledu. Hoffem hefyd gymeryd y cyfle i ddiolch yn arbennig i preswylwraig Mrs Dorothy Archer o Gwm Penmachno am gynnal gwasanaeth pob bore Sul yn cynnwys darlleniadau beiblaidd ar ein cyfer.
Os yr ydych yn adnabod unrhyw un fysa yn manteisio cael lleoliad byr neu lleoliad parhaol yma gyda ni yng Nghartref Bryn yr Eglwys yna cysylltwch gyda ar 01690 770384 neu drwy ein ebostio c.b.y.e@hotmail.co.uk.
